Lleoliad:
Video conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Chwefror 2021
Amser: 09.02 - 09.13
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Mark Isherwood AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Nododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer yr eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru, gan gynnwys y byddai Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn bresennol yn y Cyfarfod Zoom cyn dechrau'r Cyfarfod Llawn a than ddiwedd yr eitem.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.36pm.
Dydd Mercher
· Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 12.45.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y ddwy Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 2 Mawrth 2021 –
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 17 Mawrth 2021 –
3.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar ddwy ddeiseb Canolfan Ganser Felindre ar 3 Mawrth, a dadl ar 'P-05-1056 Rhoi pwerau i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai mewn ardaloedd gwledig a thwristiaeth yng Nghymru' ar 17 Mawrth.
4 Deddfwriaeth
4.1 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:
4.2 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 1 Mawrth fel dyddiad cau i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.